Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 13A(8) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

y dreth gyngor, cymru

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei
gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng
Nghymru wneud cynllun sy’n pennu pa ostyngiadau sydd i fod yn gymwys i’r symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, yr ystyria’r awdurdod eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 4(a)(i) i (v), 5, 9(a)(i) i (v), a 10(a), (c) ac (e) yn cynyddu rhai o’r ffigurau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson yr hawl i gael gostyngiad ai peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael). Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(a) i (e), 24 a 25(a), (c) ac (e).

Gwneir y diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3(a)(iii) ac (c), 4(d)(ii), 6, 9(d)(ii) a (iii), 10(b) a (d) ac 11 o ganlyniad i ddarpariaeth yn adrannau 15 ac 16 o Ddeddf Diwygio Lles 2016. O 3 Ebrill 2017, yn gyffredinol mae hawlogaeth i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar ba un a oes gan berson alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith ai peidio yn hytrach nag ar ba un a yw’n derbyn swm elfen gweithgaredd perthynol i waith y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae rheoliad 3(a)(iii) yn mewnosod diffiniad newydd yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig, sef “aelod o grŵp gweithgaredd perthynol i waith”. Mae’r diwygiadau dilynol yn cyflwyno cyfeiriadau at sefyllfa pan fo ceisydd neu bartner ceisydd yn aelod o grŵp gweithgaredd perthynol i waith neu â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 16(a)(iii) ac (c), 17(f), 22(b) ac (c), 25(b) a (d), 26 a 28.

Gwneir y diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3(b), 4(d)(i) a 9(d)(i) o ganlyniad i ddarpariaeth yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”). Mae rheoliad 3(b) yn diwygio’r diffiniad o “cartref gofal” i gynnwys cyfeiriad at wasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf 2016. Mae rheoliadau 4(d)(i) a 9(d)(i) yn rhoi cyfeiriad at berson sydd wedi ei gyflogi, neu sy’n gweithredu o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, i ddarparu gofal a chymorth gan ddarparwr gwasanaeth cymorth cartref o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf 2016 yn lle’r cyfeiriad at weithiwr gofal cartref. Mae rheoliad 16(b) yn gwneud yr un diwygiad i’r diffiniad o “cartref gofal” yn y Rheoliadau Cynllun Diofyn, ac mae’r cyfeiriad a amnewidiwyd at weithiwr gofal cartref wedi ei fewnosod gan reoliad 22(a).

Gwneir y diwygiad i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliad 4(b)(i) o ganlyniad i Ddeddf Pensiynau 2014 sy’n disodli’r lwfans a’r taliad profedigaeth â lwfans cymorth profedigaeth.  Rhoddwyd “taliad cymorth profedigaeth” yn lle’r cyfeiriad at “taliad profedigaeth” yn y ddarpariaeth sy’n ymdrin ag ystyr incwm mewn cysylltiad â phensiynwyr.  Gwneir yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 18(a).

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 3(a)(i), (ii), (iv), (v) a (d), 8(a), 9(a)(vii), (c), (e) ac (f), 12(b), 13(a) a (b) a 14 yn diffinio ac yn ychwanegu cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain a Chronfa Argyfwng We Love Manchester at y rhestr o gynlluniau neu ymddiriedolaethau y mae taliadau ohonynt i’w diystyru wrth gyfrifo incwm neu gyfalaf at ddibenion asesu hawlogaeth person i ostyngiad treth gyngor. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 16(a)(i), (ii), (iv), (v) a (d), 17(g), 21, 23, 29(b), 30(a) a 31(a) i (c).

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 4(c) a 9(b) yn egluro’r dyddiad y mae enillion ceisydd yn cael eu hystyried pan fo ceisydd yn cychwyn cyflogaeth neu pan fo enillion ceisydd yn newid er mwyn sicrhau cysondeb â’r ddarpariaeth gyfatebol yn y Rheoliadau ynghylch newid mewn amgylchiadau. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 19 a 20.

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 4(a)(vii), 8(b), 9(a)(viii) a (ix) a 13(c) yn darparu bod taliadau a wneir o dan ymddiriedolaethau penodol, neu gan ymddiriedolaethau penodol, a sefydlir at y diben o roi cymorth a chynhorthwy i bobl anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, i’w diystyru wrth gyfrifo cyfalaf at ddibenion asesu hawlogaeth person i ostyngiad treth gyngor, ac wrth bennu incwm annibynyddion. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(i), 30(b) a 31(d).

Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 4(b)(ii), 7 a 12(a) yn diwygio’r rhestrau o incwm ac eithrio enillion wrth bennu pa un a yw person yn gymwys i gael gostyngiad fel bod unrhyw daliad a wneir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol yn cael ei ddiystyru. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 18(b), 27 a 29(a).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 13A(8) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2018 Rhif (Cy. )

y dreth gyngor, cymru

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([1]) a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny.

(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013([2]), neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

2.  Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 14.

3. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—

(a)     yn y man priodol mewnosoder—

                           (i)    “ystyr “cynllun gwaed cymeradwy” (“approved blood scheme”) yw—

(a)   cynllun a sefydlir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu ymddiriedolaeth a sefydlir gyda chyllid a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, at y diben o roi digollediad mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig; neu

(b)  cynllun a sefydlir o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([3]) ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth Felindre([4]) at y diben o wneud taliadau a rhoi cymorth i unigolion sydd wedi eu heintio â Hepatitis C, HIV neu’r ddau, drwy waed halogedig neu gynhyrchion gwaed halogedig a ddefnyddir gan y GIG, neu mewn cysylltiad â hynny;;

                         (ii)    “ystyr “Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain” yw’r cwmni sy’n dwyn yr enw “the London Emergencies Trust” (rhif 09928465) a ymgorfforwyd ar 23 Rhagfyr 2015 a’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw hwnnw (rhif 1172307) a sefydlwyd ar 28 Mawrth 2017;”;

                       (iii)    “ystyr “aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith” (“member of the work-related activity group”) yw person sydd â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, neu berson a drinnir felly, o dan naill ai—

(a)   Rhan 5 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008([5]) ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 30 o’r Rheoliadau hynny; neu

(b)  Rhan 4 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013([6]) ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 26 o’r Rheoliadau hynny;;

                        (iv)    ystyr “Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban” yw’r cynllun sy’n dwyn yr enw “the Scottish Infected Blood Support Scheme” a weinyddir gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin (a gyfansoddwyd gan adran 10 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978([7]);”;

                          (v)    ystyr “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” yw’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw “the We Love Manchester Emergency Fund” (rhif 1173260) a sefydlwyd ar 30 Mai 2017;”;

(b)     yn lle’r diffiniad o “cartref gofal” (“care home”) rhodder—

mewn perthynas â “cartref gofal” (“care home”)—

(a)   yn Lloegr mae iddo’r ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000([8]);

(b)  ei ystyr yng Nghymru yw man lle y darperir gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016([9]), i oedolion yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

(c)   yn yr Alban mae iddo’r ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010([10]); a

(d)  yng Ngogledd Iwerddon mae iddo’r ystyr a roddir i “nursing home” gan erthygl 11 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003([11]) neu’r ystyr a roddir i “residential care home” gan erthygl 10 o’r Gorchymyn hwnnw;;

(c)     yn lle’r diffiniad o “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd”
(“main phase employment and support allowance”) rhodder—

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd”
(“main phase employment and support
allowance
”), ac eithrio yn Rhan 1 o Atodlen 7, yw lwfans cyflogaeth a chymorth pan fo—

(a) cyfrifo’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r ceisydd yn cynnwys elfen o dan adran 2(1)(b) neu 4(2)(b) o Ddeddf Diwygio Lles 2007; neu

(b) y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith;;

(d)     yn y diffiniad o “person cymwys” (“qualifying person”), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder, “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”. 

4. Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—

                           (i)    yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£12.70” rhodder “£13.10”;

                         (ii)    yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£4.20” rhodder “£4.35”;

                       (iii)    yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£200.00” rhodder “£205.00”;

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£200.00”, “£346.00” ac “£8.40” rhodder “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” yn y drefn honno;

                          (v)    yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” rhodder “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” yn y drefn honno;

                        (vi)    yn is-baragraff (8)(a) ar ôl “lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm” mewnosoder “a phan na fo’r annibynnydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

                      (vii)    yn lle is-baragraff (9) rhodder—

(9) Wrth gymhwyso is-baragraff (2) mae’r canlynol i’w diystyru o incwm wythnosol gros yr annibynnydd—

(a)   unrhyw lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, neu TALlA a dderbynnir gan yr annibynnydd;

(b)  unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

(b)     ym mharagraff 10(1) (ystyr “incwm”: pensiynwyr)—

                           (i)    yn lle paragraff (j)(xiii) rhodder—

                  (xiii)  taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014([12]);”;

                         (ii)    yn lle paragraff (m) rhodder—

(m)  pensiwn a delir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol;;

(c)     ym mharagraff 11 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr)—

                           (i)    yn is-baragraff (3A)—

(aa)        ym mharagraff (a) yn lle “ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos
ostyngiad honno ai peidio” rhodder “ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd”;

(bb)       yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu

(c)   yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd yn newid, er mwyn ei gwneud yn ofynnol ailgyfrifo o dan y paragraff hwn, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.;

                         (ii)    yn is-baragraff (4A)—

(aa)        ym mharagraff (a) yn lle “ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos
ostyngiad honno ai peidio” rhodder “ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd”;”;

(bb)       yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu

(c)   yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd o gyflogaeth yn newid a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.;

(d)     ym mharagraff 19 (trin costau gofal plant: pensiynwyr)—

                           (i)    yn lle is-baragraff (8)(l) rhodder—

(1) gan berson sydd wedi ei gyflogi, neu sy’n gweithredu o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, i ddarparu gofal a chymorth gan y darparwr gwasanaeth cymorth cartref, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;;

                         (ii)    yn is-baragraff (11)(c) ar ôl “galluedd cyfyngedig yr aelod arall ar gyfer gwaith” y tro cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “neu oherwydd y byddai’r aelod arall o’r cwpl yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”.

5. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£159.35” a “£172.55” rhodder “£163.00” a “£176.40” yn y drefn honno;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£243.25” a “£258.15” rhodder “£248.80”  a “£263.80” yn y drefn honno;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£243.25” a “£83.90” rhodder “£248.80” a “£85.80” yn y drefn honno;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£258.15” a “£85.60” rhodder “£263.80”  a “£87.40” yn y drefn honno;

(b)     yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£62.45” ym mhob man y mae’n digwydd rhodder “£64.30” ac yn lle “£124.90” rhodder “£128.60”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2), yn lle “£24.78” rhodder “£25.48”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3), yn lle “£60.90” rhodder “£62.86”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4), yn lle “£34.95” rhodder “£36.00”.

6. Yn Atodlen 3 (symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr), ym mharagraff 5(1)(d)(ii), yn lle “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” rhodder “yn codi,”.

7. Yn Atodlen 4 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr), yn lle paragraff 1(g), rhodder—

(g) pensiwn a delir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol.

8. Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 16(1)(a), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

(b)     ar ôl paragraff 28A mewnosoder—

28B. Unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

9. Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

                           (i)    yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£12.70” rhodder “£13.10”;

                         (ii)    yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£4.20” rhodder “£4.35”;

                       (iii)    yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£200.00” rhodder “£205.00”;

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£200.00”, “£346.00” ac “£8.40” rhodder “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” yn y drefn honno;                                                      

                          (v)    yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” rhodder “£355.00”, “£440.00”  a “£10.95” yn y drefn honno;

                        (vi)    yn is-baragraff (8)(a) ar ôl “lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm” mewnosoder “neu pan na fo’r annibynnydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

                      (vii)    yn is-baragraff (9)(b), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

                    (viii)    ar ddiwedd is-baragraff (9)(c) yn lle “.” rhodder “;”;

                        (ix)    ar ôl is-baragraff (9)(c) mewnosoder—

(d) unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.;

(b)     ym mharagraff 10A (y dyddiad y cymerir i ystyriaeth incwm sy’n cynnwys enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

                           (i)    yn is-baragraff (a) yn lle “ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos
ostyngiad honno ai peidio” rhodder “ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd”;

                         (ii)    yn lle is-baragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu

(c)   yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd o gyflogaeth yn newid a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.;

(c)     ym mharagraff 19(4)(a) (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

(d)     ym mharagraff 21 (trin costau gofal plant)—

                           (i)    yn lle is-baragraff (8)(l) rhodder—  

(1)  gan berson sydd wedi ei gyflogi, neu sy’n gweithredu o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, i ddarparu gofal a chymorth gan ddarparwr gwasanaeth cymorth cartref, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016; neu ;

                         (ii)    yn is-baragraff (11)(a), ar ôl “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” mewnosoder “neu y byddai’r aelod arall yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

                       (iii)    yn is-baragraff (11)(c), ar ôl “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” mewnosoder “neu y byddai’r aelod arall yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

(e)     ym mharagraff 27(7) (incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester,”;

(f)      ym mharagraff 30 (cyfalaf tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn is-baragraff (4)(a), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.

10. Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£73.85” ym mhob man y mae’n digwydd rhodder “£76.10” ac yn lle “£58.50” rhodder “£60.25”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2), yn lle “£73.85” rhodder “£76.10”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3), yn lle “£116.00” rhodder “£119.50”;

(b)     ym mharagraff 2(a) ar ôl “ceisydd” mewnosoder “neu os yw’r ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

(c)     yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£32.55” a “£46.40” rhodder “£33.55”  a “£47.80” yn y drefn honno;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£62.45” ym mhob man y mae’n digwydd rhodder “£64.30” ac yn lle “£124.90” rhodder “£128.60”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3), yn lle “£60.90” rhodder “£62.86”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4), yn lle “£34.95” rhodder “£36.00”;

                          (v)    yn is-baragraff (5), yn lle “£24.78”, “£15.90” a “£22.85” rhodder “£25.48”, “£16.40” a “£23.55” yn y drefn honno;

(d)     yn Rhan 5 (yr elfennau), ym mharagraff 18(c)(ii) hepgorer “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith”;

(e)     yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£36.55” rhodder “£37.65”.

11. Yn Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 4(2), ar ôl “Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)” mewnosoder “neu pan fo’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

(b)     ym mharagraff 18, yn is-baragraff (2)(b)(iv)—

                           (i)    ym mharagraff (aa), yn lle “yn eu tro” rhodder “, neu fod y ceisydd neu bartner y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

                         (ii)    ym mharagraff (bb), yn lle “ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd” rhodder “, neu un aelod, o leiaf, o’r cwpl yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”.

12. Yn Atodlen 9 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm
ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yn lle paragraff 20(g) rhodder—

(g) pensiwn a delir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol.;

(b)     ym mharagraff 41, yn is-baragraffau (1) a (7), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.

13. Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 29—

                           (i)    yn is-baragraff (1), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

                         (ii)    yn is-baragraff (7), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

(b)     ym mharagraff 38, ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

(c)     ar ôl paragraff 63 mewnosoder—

64. Unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

14. Yn Atodlen 13 (pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod — materion eraill), ym mharagraff 5(7)(a)(ii) (tystiolaeth a gwybodaeth), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

15. Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013([13]) wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 16 i 33.

16. Ym mharagraff 2 (dehongli), yn is-baragraff (1)—

(a)     yn y man priodol mewnosoder—

                           (i)    “ystyr “cynllun gwaed cymeradwy” (“approved blood scheme”) yw—

(a)   cynllun a sefydlir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu ymddiriedolaeth a sefydlir gyda chyllid a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, at y diben o roi digollediad mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei heintio gan gynhyrchion gwaed halogedig; neu

(b)  cynllun a sefydlir o dan adrannau 1 i 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([14]) ac a weinyddir gan Ymddiriedolaeth Felindre([15]) at y diben o wneud taliadau a rhoi cymorth i unigolion sydd wedi eu heintio â Hepatitis C, HIV neu’r ddau, drwy waed halogedig neu gynhyrchion gwaed halogedig a ddefnyddir gan y GIG, neu mewn cysylltiad â hynny;”;

                         (ii)    “ystyr “Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain” yw’r cwmni sy’n dwyn yr enw “the London Emergencies Trust” (rhif 09928465) a ymgorfforwyd ar 23 Rhagfyr 2015 a’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw hwnnw (rhif 1172307) a sefydlwyd ar 28 Mawrth 2017;”;

                       (iii)    “ystyr “aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith” (“member of the work-related activity group”) yw person sydd â galluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, neu berson a drinnir felly, o dan naill ai—

 (a) Rhan 5 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 30 o’r Rheoliadau hynny; neu

(b)   Rhan 4 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2013 ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 26 o’r Rheoliadau hynny;;

                        (iv)    ystyr “Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban” yw’r cynllun sy’n dwyn yr enw “the Scottish Infected Blood Support Scheme” a weinyddir gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin (a gyfansoddwyd gan adran 10 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978);”;

                          (v)    ystyr “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” yw’r elusen gofrestredig sy’n dwyn yr enw “the We Love Manchester Emergency Fund” (rhif 1173260) a sefydlwyd ar 30 Mai 2017;”;

(b)     yn lle’r diffiniad o “cartref gofal” (“care home”) rhodder—

mewn perthynas â “cartref gofal” (“care home”)—

(a) yn Lloegr mae iddo’r ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

(b)  ei ystyr yng Nghymru yw man lle y darperir gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i oedolion yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

(c)   yn yr Alban mae iddo’r ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (yr Alban) 2010; a

(d)  yng Ngogledd Iwerddon mae iddo’r ystyr a roddir i “nursing home” gan erthygl 11 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003 neu’r ystyr a roddir i “residential care home” gan erthygl 10 o’r Gorchymyn hwnnw;;

(c)     yn lle’r diffiniad o “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd”
(“main phase employment and support allowance”) rhodder—

ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd”
(“main phase employment and support
allowance
”), ac eithrio yn Rhan 1 o Atodlen 3, yw lwfans cyflogaeth a chymorth pan fo—

(a) cyfrifo’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r ceisydd yn cynnwys elfen o dan adran 2(1)(b) neu 4(2)(b) o Ddeddf Diwygio Lles 2007; neu

(b) y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith;;

(d)     yn y diffiniad o “person cymwys” (“qualifying person”), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.

17. Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£12.70” rhodder “£13.10”;

(b)     yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£4.20” rhodder “£4.35”;

(c)     yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£200.00” rhodder “£205.00”;

(d)     yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£200.00”, “£346.00” ac “£8.40” rhodder “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” yn y drefn honno;

(e)     yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” rhodder “£355.00”, “£440.00”  a “£10.95” yn y drefn honno;

(f)      yn is-baragraff (8)(a) ar ôl “lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm” mewnosoder “a phan na fo’r annibynnydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

(g)     yn is-baragraff (9)(b), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

(h)     yn is-baragraff (9)(c) yn lle “.” rhodder “; a”;

(i)      ar ôl is-baragraff (9)(c) mewnosoder—

(d) unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymortha chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

18. Ym mharagraff 36(1) (ystyr “incwm”: pensiynwyr)—

(a)     yn lle paragraff (j)(xiii) rhodder—

                  (xiii)  taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014;;

(b)     yn lle paragraff (m) rhodder—

(m)  pensiwn a delir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol;.

19. Ym mharagraff 37 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr)—

(a)     yn is-baragraff (3A)—

                           (i)    ym mharagraff (a) yn lle “ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos
ostyngiad honno ai peidio” rhodder “ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd”;

                         (ii)    yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu

(c)   yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd o gyflogaeth yn newid, er mwyn ei gwneud yn ofynnol ailgyfrifo o dan y paragraff hwn, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.;

(b)     yn is-baragraff (4A)—

                           (i)    ym mharagraff (a) yn lle “ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos
ostyngiad honno ai peidio” rhodder “ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd”;

                         (ii)    yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu

(c)   yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd o gyflogaeth yn newid a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.

20. Yn lle paragraff 44A (y dyddiad y cymerir i ystyriaeth incwm sy’n cynnwys enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) rhodder—

Y dyddiad y cymerir i ystyriaeth incwm sy’n cynnwys enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

44A. Rhaid i enillion wythnosol cyfartalog ceisydd o gyflogaeth a amcangyfrifir yn unol â pharagraff 44 (enillion wythnosol
cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) gael eu hystyried—

(a)   yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y cafodd y cais ei drin fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd;

(b)  yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd; neu

(c)   yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog y ceisydd o gyflogaeth yn newid, y diwrnod y mae enillion y ceisydd o gyflogaeth yn newid a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad ar ôl hynny, ni waeth pryd y cafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd.

21. Ym mharagraff 53 (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn is-baragraff (4)(a), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.

22. Ym mharagraff 55 (trin costau gofal plant)—

(a)     yn lle is-baragraff (8)(l) rhodder—

(1) gan berson sydd wedi ei gyflogi, neu sy’n gweithredu o dan gontract ar gyfer gwasanaethau, i ddarparu gofal a chymorth gan ddarparwr gwasanaeth cymorth cartref, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016; neu”;

(b)     yn is-baragraff (11)(c), ar ôl “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” mewnosoder “neu y byddai’r aelod arall yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

(c)     yn is-baragraff (11)(e), ar ôl “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” mewnosoder “neu y byddai’r aelod arall o’r cwpl yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”.

23. Ym mhob un o’r darpariaethau a ganlyn, ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”—

(a)     paragraff 61(7) (incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr);

(b)     paragraff 64(6)(a) (cyfalaf tybiannol);

(c)     paragraff 111(7)(a)(ii) (tystiolaeth a gwybodaeth).

24. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£159.35” a “£172.55” rhodder “£163.00” a “£176.40” yn y drefn honno;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£243.25” a “£258.15” rhodder “£248.80” a “£263.80” yn y drefn honno;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£243.25” a “£83.90” rhodder “£248.80”  a “£85.80” yn y drefn honno;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£258.15” a “£85.60” rhodder “£263.80”  a “£87.40” yn y drefn honno;

(b)     yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£62.45” ym mhob man y mae’n digwydd rhodder “£64.30” ac yn lle “£124.90” rhodder “£128.60”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2), yn lle “£24.78” rhodder “£25.48”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3), yn lle “£60.90” rhodder “£62.86”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4), yn lle “£34.95” rhodder “£36.00”.

25. Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£73.85” ym mhob man y mae’n digwydd rhodder “£76.10” ac yn lle “£58.50” rhodder “£60.25”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2), yn lle “£73.85” rhodder “£76.10”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3), yn lle “£116.00” rhodder “£119.50”;

(b)     ym mharagraff 2(a) ar ôl “ceisydd” mewnosoder “neu fod y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

(c)     yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—

                           (i)    yn is-baragraff (1), yn lle “£32.55” a “£46.40” rhodder “£33.55” a “£47.80” yn y drefn honno;

                         (ii)    yn is-baragraff (2), yn lle “£62.45” ym mhob man y mae’n digwydd rhodder “£64.30” ac yn lle “£124.90” rhodder “£128.60”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3), yn lle “£60.90” rhodder “£62.86”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4), yn lle “£34.95” rhodder “£36.00”;

                          (v)    yn is-baragraff (5), yn lle “£24.78”, “£15.90” a “£22.85” rhodder “£25.48”, “£16.40” a “£23.55” yn y drefn honno;

(d)     yn Rhan 5 (yr elfennau), ym mharagraff 18(c)(ii) hepgorer “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith”;

(e)     yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£36.55” rhodder “£37.65”.

26. Yn Atodlen 4 (symiau a ddiystyrir o enillion ceisydd: pensiynwyr), ym mharagraff 5(1)(d)(ii) yn lle “neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith” rhodder “yn codi,”.

27. Yn Atodlen 5 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: pensiynwyr), yn lle paragraff 1(g) rhodder—

(g) pensiwn a delir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol.

28. Yn Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 4(2), ar ôl “Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)” mewnosoder “neu pan fo’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

(b)     ym mharagraff 18, yn is-baragraff (2)(b)(iv)—

                           (i)    ym mharagraff (aa), yn lle “yn eu tro” rhodder “, neu fod y ceisydd neu bartner y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”;

                         (ii)    ym mharagraff (bb), yn lle “ac yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd” rhodder “neu fod un aelod, o leiaf, o’r cwpl yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith”.

29. Yn Atodlen 7 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm
ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yn lle paragraff 20(g) rhodder—

(g) pensiwn a delir gan lywodraeth i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol.;

(b)     ym mharagraff 41(1) a (7), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”.

30. Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 16(1)(a), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

(b)     ar ôl paragraff 28A mewnosoder—

28B. Unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

31. Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 29(1), ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

(b)     ym mharagraff 29(8), ar ôl “Sefydliad Caxton,” mewnosoder “cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

(c)     ym mharagraff 38, ar ôl “Sefydliad Caxton” mewnosoder “, cynllun gwaed cymeradwy, Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban, Ymddiriedolaeth Argyfyngau Llundain, Cronfa Argyfwng We Love Manchester”;

(d)     ar ôl paragraff 63 mewnosoder—

64. Unrhyw daliad a wneir o dan ymddiriedolaeth, neu gan ymddiriedolaeth, a sefydlir at ddiben rhoi cymorth a chynhorthwy i bersonau anabl yr achoswyd eu hanableddau gan y ffaith bod eu mamau wedi cymryd cymysgedd a oedd yn cynnwys y cyffur o’r enw Thalidomid yn ystod eu beichiogrwydd, ac a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

 

 

 

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno ac Atodlen 4 iddi.

([2])           O.S. 2013/3029 (Cy. 301), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21) ac O.S. 2017/46 (Cy. 20).

([3])           2006 p. 42.

([4])           Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Felindre o dan erthygl 2 o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 (O.S. 1993/2838, diwygiwyd gan O.S. 1999/826).

([5])           O.S. 2008/794.

([6])           O.S. 2013/379.

([7])           1978 p. 29.

([8])           2000 p. 14.

([9])           2016 dccc 2.

([10])         2010 dsa 8.

([11])         2003 Rhif 431 (G.I. 9).

([12])         2014 p. 19.

([13])         O.S. 2013/3035 (Cy. 303), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21) ac O.S. 2017/46 (Cy. 20).

([14])         2006 p. 42.

([15])         Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Felindre  o dan erthygl 2 o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 (O.S. 1993/2838, diwygiwyd gan O.S. 1999/826).